Saturday 25 January 2014

Yr Iaith Gymraeg a Fi


Rydw i wedi penderfynnu ysgrifennu erthygl ar y blog yma yn Nghymraeg. Mae gen i nifer o rhesymau am hyn, ond mae na bedwar prif rheswm.

1.       Rydw i eisiau ymarfer yr iaith oherwydd mae fy gramateg a sillafu yn ofnadwy. Os mae na ambell i frawddeg yn yr erthygl sydd ddim yn gwneud synnwyr, bai Google Translate yw o.
2.       Rydw i eisiau casgly fy meddyliau am yr iaith mewn un lle, a mae’n gwneud synnwyr i gwneud hyn yn defnyddio’r iaith.
3.       Rydw i wedi cael fy ysbridoli i ysgrifennu yng Nghymraeg gan fy ffrind Madeley, a’i rant bendigedig ar Twitter rhai wythnosau yn ol am yr iaith.

Mae rhaid i fi eich rhybyddio, mae fy sillafu a gramateg yn warthus! Hefyd mae rhaid i fi eich rhybyddio, rwy’n cwyno am rhai rhannau o'r diwylliant Cymreig yn y paragraffiau gyntaf, ond rwy’n mynd rhywle ag ef.

Yr unig rheswm rydw i’n siarad Cymraeg yw oherwydd wnaeth fy rhienu anfon fi i ysgol Cymraeg ers ysgol feithrin. Os yr oeddwn i heb wedi dechray ddysgu’r iaith ers yr oedran ifanc yna, rwy’n sicr byddwn i wedi fod yn rhy ddiog i’w ddysgu yn hwyrach yn fy mywyd. Mae’n rhywbeth gywilyddus i cyfaddef ond mae’n wir. Rydw i’n dyn ddiog iawn.  Fel canlyniad rwy’n falch iawn wnaeth fy rhieni (sydd ddim yn siarad Cymraeg) dewis i anfon fi i ddysgu trwy gyfrwng y iaith Gymraeg. Ond, nid oeddwn i’n teimlo fel yna tra roeddwn i yn yr ysgol, yn enwedig pryd yr oeddwn i yn fy arddegau.

Yn yr ysgol roedd o’n teimlo fel yr unig amser wnaeth rhan fwyaf  o’r ddisgyblion yn fy mlwyddyn siarad Gymraeg oedd pan oedd yr athrawon o gwmpas. Gweddill o’r amser wnaethon ni siarad Saesneg a bydd siarad Gymraeg heb athro o gwmpas wedi cael eu hystyried yn rhyfedd. Efalle roedd hyn oherwydd ymgeision yr athrawon i argyhoeddi ni fod yr iaith Gymraeg yn “cwl”. Wedi’r cyfan, does ddim byd yn fwy ‘uncool’ na athro yn defnyddio’r gair “cwl”.

Problem arall oedd y ffaith bod y diwylliant Cymreig tu allan i’r ysgol gawson ni brofiad o yn mor crap. Roedd gan teledu i blant yn yr 80au a 90au cynnar obsesiwn rhyfedd gyda tedi bois. Syniad pwy oedd o i gwneud Jeifin Jenkins yr wyneb o teledu plant Cymraeg? Pwy oedd yn ddisgwyl i blentyn yn yr 80au uniaethu â throwback i’r 50au?! Beth arall oedd ganddyn ni? Pobl y Cwm? Sebon i oedolion. C'mon Midffîld? Er yr oeddwn i’n ifanc wnes i sylweddoli roedd Wali ddim ond yn dyn gyda sbectol a het dwp, a nad oedd yn cymeriad a oedd yn bell yn debyg i unrhyw un a oedd wedi byw erioed. Voltron wedi ei dybio yng Nghymraeg? Ie, ok, roedd hynny’n eitha dda. Beth am yr Eisteddfod? Rwy’n deall i llawer o bobl Gymaraeg mae’r Eisteddfod yn siwans i dathlu, cwrdd a ffrindiau, a gwylio bands. Ond i ni roedd yr Eisteddfod yn yr adeg o’r blwyddyn pryd wnaeth yr athrawon gorfodi ni i gwennu fel ffyliaid tra’n adrodd barddoniaeth annealladwy.

Ond dyma’r peth rhyddef. Pryd aethon ni ar tripiau i Llangrannog neu Glanllyn, roedd yr ysgolion eraill Cymraeg yn hapus i siarad Cymraeg, hyd yn oed pryd nad oedd yr athrawon o gwmpas. Roedd y flwyddyn uchod ni a’r flwyddyn tu ol i ni yn hapus i siarad Cymraeg, hyd yn oed pryd nad oedd yr athrawon o gwmpas. I ddweud y gwir, roedd llawer o pobl yn fy mlwyddyn i yn hapus i siarad Gymraeg, hyd yn oed pryd nad oedd yr athrawon o gwmpas. Mewn wirionedd ddim ond rhai ddisgyblion oedd gyda problem siarad Gymraeg, ond y beth dwp oedd, wnaethon ni credu roedd y pobl a oedd yn hapus i siarad yr iaith yn y rhai rhyfedd! Wnaethon ni ddim ystyried fod ni oedd y rhai rhyfedd.

Y peth pwysig i cofio hefyd yw’r ffaith roeddwn i’n twat enfawr yn yr ysgol. Ar un adeg, ym mlwyddyn y Chweched wnes i torri lawr poster a oedd yn hyrwyddo y iaith Gymraeg o’r wal yn lolfa y Chweched. Wnes i cyhoeddi ‘n daer y rheswm oedd oherwydd roedd y poster yn “propaganda”. Rwy’n dal i ysgwyd fy mhen ag embaras hyd heddiw.

Roedd o ddim ond fel oedolyn fellu wnes i dechrau gwerthfawrogi yr iaith. Wnes i ddechrau gweithio mewn amgueddfa gwyddoniaeth yn fy nghanol 20au, a bu rhaid i fi perfformio sioeau yng Nghymraeg a fynd allan i ddysgy mewn ysgolion Cymraeg. Wnes i sylweddoli fy mod wedi dechrau anghofio’r iaith tra roeddwn i yn y brifysgol, a wnes i teimlo fel yr oeddwn i’n colli rhywbeth gwerthfawr. Wnes i hefyd ddechrau gwrando i’r ddadleuon o blaid cael gwared ar y iaith a wnes i sylweddoli rhywbeth bwysig. Roeddwn nhw i gyd yn bollocks.

Mae Cymru yn gwlad dwyieithog, mae rhai pobl yn siarad Gymraeg, mae rhai pobl yn siarad Saesneg, a mae rhai pobl yn siarad y ddwy iaith. Beth yn union sy’n bod a hynny? Gadewch i ni edrych ar rhai o’r ddadleuon poblogaidd o blaid cael gwared ar y iaith:

1.       “It costs money to translate everything!”
Ie, rwy’n siwr heb y gost o gyfieithi popeth i fewn i Gymraeg bydd gan Cymru dim pobl di-gartref ac ysbytai aur solid!
2.       “The bilingual road signs are confusing!”
Os ydych yn ffeindio darllen arwyddion ffyrdd dwyieithog (Saesneg ar y top, Cymraeg ar y gwaelod) yn ddryslyd, rydych chi’n idiot a ni ddylech fod yn gyrru.
3.       “Welsh lessons were forced on me in school! I could have been learning something useful”
Oh noes!!! Bu rhaid i chi gwneud rhywbeth wnaethoch chi ddim fwynhau yn yr ysgol!!!! A ie, rwy’n siwr heb yr awr pob wythnos o gwersi  Cymraeg bydd gennych chi gradd mewn thermodynameg a byddech chi’n rhugl yn Ffrangeg, Almaeneg a Mandarin erbyn hyn!
4.       “They use loads of English words anyway!”
Art, competition, force, machine, police, publicity, role, routine, table. Dim ond rhai o’r geiriau Saesneg gyda gwreiddiau Ffraneg.
5.     “It’s a dead language, what’s the point?”
Mae’r nifer o bobl sy’n siarad Gymraeg yn gollwng, mae hyn yn wir. Mae Cymru felly mewn perygl o golli darn o’u hunaniaeth. Ateb y pobl gwrth-Gymraeg yma yw “Who cares, the road signs are confusing!” Ydy hynny’n swnio fel agwedd rhesymegol pan fyddant yn wynebu y colled o darn o’ch hunaniaeth? Edrychwch trwy hanes beth mae rhai pobl wedi mynd trwy i cadw eu diwylliant, edrychwch ar yr Iddewon a’r Americanwyr Brodorol. Mae nhw wedi cadw eu hunaniaeth wrth fynd trwy llawer gwaeth na mae’r Cymry wedi , ac rydyn ni’n rhi ddiog i darllen arwyddion ffyrdd dwyieithog.

Dros y flynyddoedd rydw i wedi clywed llawer o pobl gwrth -Gymraeg yn cwyno mae’r iaith Gymraeg yn cael ei gorfodi arnyn nhw. Ond gallyn ni wir disgrifio gwersi Cymraeg mewn ysgolion, S4C, ac arwyddion dwyieithog fel  gorfodiad? Mae’r pobl yma eisiau cymryd i ffwrdd yr opsiwn i anfon ein plentyn i ddysgu trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg. Mae nhw eisiau cymryd i ffwrdd ein hawl i cael ein hunaniaeth genedlaethol ei adlewyrchu yn y byd o’n gwmpas.  Dyna eich “gorfodiad”!

Rwy’n meddwl yn aml am y bobl Gymraeg rwy wedi cwrdd a dros y blynyddoedd wnaeth dweud pethau fel “I hate the bloody English”.  Y peth rhyfedd yw, nad yw pobl Saesneg yn ceisio cael gwared o’r iaith Cymraeg. Yn fy mhrofiad i mae nhw wastad yn ddangos diddordeb pan rwy’n dweud rwy’n siarad Cymraeg. Nad ydw i byth wedi cwrdd a person Saesneg a wnaeth gofyn i fi “You speak Welsh? What’s the point of that?”. Ond rwy wedi clywed pobl Cymraeg gofyn y cwestiwn yna. Rwy’n credu weithiau y pobl Gymraeg yw ein hunain gelyn gwaethaf.


Rydw i wedi bod yn fyw yn Lloegr
am dros flwyddyn nawr a rwy wedi dod i werthfawrogi yr iaith hyd yn oed yn fwy. Mae’r iaith yn fel darn o fy ngartref wedi ei glymu i fy mersonoliaeth. Roedd rhaid i fi bron a colli yr iaith er mwyn sylwi pa mor pwysig oedd o i fi. Mae’n darn o fi, a mae’r syniad o rywun yn ceisio i gymryd rhan ohonof i ffwrdd yn gwneud fi yn ddig. Rwy'n falch y gallai i siarad Cymraeg.

Ond rwy dal yn feddwl roedd C’mon Midffild yn shit.

4 comments:

  1. Diolch am rannu dy brofiadau.

    O'n i'n arfer dweud pwynt 3 yn fy ysgol cyfrwng Saesneg. Ond gwnes i dyfu lan yn y pen draw.

    Gallwn i saethu rhai o'r pwyntiau yma i lawr hefyd, e.e. o ran arwyddion ffyrdd dwyieithog rydym wedi cael y trafodaethau eisoes - yn y 1970au! Mae ychwil byd-eang yn dangos bod arwyddion dwyieithog yn saff.

    Mae Saesneg yn costio arian hefyd. Dyna beth sy'n anodd i siaradwyr uniaith Saesneg - cydnabod bod eu hiaith nhw yn un ymhlith nifer a'r ffaith bod Cymraeg yn 'normal'.

    Fy hoff gŵyn ydy gwrthwynebiad i gyfieithu ar y pryd mewn cynadleddau. Mae pobl yn siarad Cymraeg yng Nghymru - ffaith. Mae'r gwasanaeth yn fuddsoddiad yn y Saesneg fel arfer achos mae pobl ddi-Gymraeg yn cael y fraint o wrando ar gyfieithiad mewn clustffonau.

    Dyw fy ngramadeg i ddim yn safonol iawn chwaith, dw i'n dibynnu ar Cysill ar-lein yn eithaf aml.

    ReplyDelete
    Replies
    1. Diolch am eich sylwadau, a'r link i Cysill ar-lein hefyd. :)

      Delete
  2. "Mae rhaid i fi eich rhybyddio, mae fy sillafu a gramateg yn warthus! "

    Paid a poeni - mae grammar nazis cymreig rhy neis i ddeud dim!

    ReplyDelete
  3. Bod yr iaith Gymraeg yn costio... Yndi, tua £27,000,000 y flwyddyn. Sydd o'i gymharu a faint o bres ma'r llwyodraeth yn gwario ar betha erill yn uffar o ddim byd yn y pen draw. A dwi'n eitha sicr na fysa hyna yn neud unrhyw wahaniath ar lefel o bobol sydd gen waith, os nad y gwrthwyneb.

    ReplyDelete